Mae gan Barndoor Strategy wreiddiau dyfnion ym materion cyhoeddus Cymru, gan ei fod wedi’i darddio o’r fro Gymraeg, Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn gallu helpu cwmnïoedd i gael eu lleisiau wedi’u clywed yng Nghymru; ond mae hefyd gennym arbenigedd i ddylanwadu cyrff ledled y DU sy’n gwneud penderfyniadau dros Gymru a’u gorfodi nhw i wrando arnom.

Senedd Cymru

Amdanom ni

Mae Barndoor Strategy yn ymgynghoriaeth faterion cyhoeddus gyda gwybodaeth arbenigol sy’n cwmpasu’r sbectrwm cyfan o bolisi a rheoleiddiad cyhoeddus.

Mae gan ein tîm ni ddegawdau o brofiad o ddiwygio deddfwriaeth ac o helpu cwmnïoedd i ennill eu dadleuon yn llys y farn gyhoeddus.

Mae Barndoor Strategy yn cyflwyno’i gweithgareddau materion cyhoeddus yn unol â Chôd y Gymdeithas o Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rydym yn delio gyda phob ran o bolisi cyhoeddus boed yn berthnasol i seneddau a chynulliadau lleol, cenedlaethol neu wedi’u datganoli. Rydym yn arbenigo mewn:

  • Materion cyhoeddus
  • Strategaeth
  • Cyfathrebiadau

Rydym yn delio gyda phob ran o bolisi cyhoeddus boed yn berthnasol i Westminster, seneddau sydd wedi’u datganoli neu lywodraeth lleol. Yn gyntaf ac yn bennaf, arbenigwyr ym materion cyhoeddus ydyn ni ac rydym yn gallu eich arwain yn ddiogel drwy’r benbleth o ddeddfwriaeth a rheoleiddiad. Wrth sôn am gyfathrebiadau, mae Barndoor Strategy yn deall yr heriau y mae timau cyfryngau corfforedig yn eu hwynebu ynghyd â’r rhai sydd gan grwpiau ymgyrchu. Rydym yn credu bod agwedd strategol i ymgysylltiad â hapddalwyr a datblygiad polisi yn angenrheidiol wrth ystyried y rolau cymhleth a gorgyffyrddol o danciau meddwl a’r cyfryngau cymdeithasol a thraddodiadol.

I ddysgu mwy, cliciwch yma

Materion cyhoeddus

Mae Barndoor Strategy yn cynnig cefnogaeth gynhwysfawr ar faterion cyhoeddus i bob lefel ar draws y DU.

Rydym yn gallu helpu gyda deddfwriaeth o flaen y Cynulliad Cymru neu gydag offeryn statudol cymhleth sy’n cael ei amlinellu gan adran Lywodraethol.

Rydym yn gallu helpu eich cwmni i ddylanwadu deddfwriaeth neu gyda rheoleiddiad.

Yn benodol, rydym yn gallu:

  • Cynorthwyo yn eich busnes gyda’r Lywodraeth, Gwrthwynebwyr ac adrannau’r Whitehall;
  • Rhoi cyngor ar ddiwygio deddfwriaeth ynghyd â threfniadaeth ac ymarfer seneddol;
  • Cynorthwyo gydag amlinellu a gweithredu strategaeth ar faterion cyhoeddus a seneddol;
  • Arwain archwiliadau i hapddalwyr seneddol a gweithgareddau ymgysylltiad gyda gwleidyddwyr a phleidiau gwleidyddol;
  • Cynorthwyo gydag argymhellion a darpariaeth o ddethol Pwyllgorau.

Strategaeth

Gall Barndoor Strategy eich helpu chi i ddeall yr elfennau allweddol sy’n arwain y ddadl a sut yr allwch chi weithio i’w dylanwadu nhw.

Mae gan ein gwaith strategaeth ni ddwy elfen hanfodol:

  • Dadansoddiad strategol o ddatblygiadau gwleidyddol allweddol a’r fframwaith polisi cyhoeddus sy’n ffurfio sail iddynt;
  • Strategaethau ymgysylltiad i sicrhau fod eich llais chi’n cael ei glywed.

Gall ddatblygiad polisi fod yn broses gymhleth gyda rolau sy’n gorgyffwrdd â’u gilydd ar gyfer ‘tanciau meddwl’, y cyfryngau ac, yn gynyddol, y cyfryngau cymdeithasol. Gall Barndoor Strategy eich helpu chi i ddeall gyrwyr allweddol y ddadl a sut yr allwch chi weithio i’w dylanwadu nhw.

Byddem yn gweithio gyda chi i ddatblygu rhaglenni ymgysylltiad sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i gael eich llais wedi’i glywed yn ystod y broses ddatblygiad polisi. Gallwn ni eich helpu os ydy polisi’n cael ei ffurfio naill ai yn Whitehall neu mewn swyddfa un o’r tanciau meddwl neu reolyddion y DU neu’r UE.

Cyfathrebiadau

Mae ein cefnogaeth gyfathrebiadau wedi’i seilio ar ddegawdau o brofiad o weithio i dimau cyfryngau corfforedig ynghyd â grwpiau ymgyrchu lleol.

Mae’r byd cyfathrebiadau’n parhau i ddatblygu’n gyflym gyda chyfryngau cymdeithasol a newyddiadurwyr dinesig.

Gall Barndoor Strategy gynnig cefnogaeth gyfryngau i’ch cymdeithas sy’n cynnwys:

  • Cyngor strategol a rheolaeth argyfwng;
  • Cefnogaeth gyda swyddfa’r Wasg gan gynnwys delio gydag ymholiadau’r cyfryngau
  • Rhaglenni cyswllt gyda newyddiadurwyr;
  • Amlinellu deunyddiau cyhoeddusrwydd gan gynnwys blogiau a datganiadau i’r cyfryngau.